APPLY TO BECOME OUR NEW FLN WALES DEPUTY LEAD!

21 June 2021, United Kingdom


Introduction

The Future Leaders Network is excited to be recruiting for a new (volunteer) Deputy Lead for the network in Wales. Over the past 18 months, a community network of future leaders has been developed, leading to good representation of young people from Wales in several and varied leadership roles. The new Deputy Lead will support the network to take bigger and bolder steps to further build and maintain a strong and beneficial network for future leaders in Wales.

The role description and details of how to apply can be found below.

Datganiad rhagarweiniol

Mae Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol yn gyffrous i fod yn recriwtio ar gyfer Dirprwy Arweinydd (gwirfoddol) newydd ar gyfer y rhwydwaith yng Nghymru. Dros y 18 mis diwethaf, datblygwyd rhwydwaith cymunedol o arweinwyr y dyfodol, gan arwain at gynrychiolaeth dda o bobl ifanc o Gymru mewn sawl rôl arweinyddiaeth amrywiol. Bydd y Dirprwy Arweinydd newydd yn cefnogi'r rhwydwaith i gymryd camau mawr a mwy hyderus i adeiladu a chynnal rhwydwaith gadarn a buddiol ar gyfer arweinwyr y dyfodol yng Nghymru.

Mae'r disgrifiad o’r swydd a manylion sut i wneud cais i'w gweld isod.


Future Leaders Network Wales – (Volunteer) Deputy Lead 

Title: Network Deputy Lead 

Responsible to: Network Wales Lead

Base: Home based

Time commitment: Up to 3 hours a week / flexible

This is an unpaid voluntary position.

Role Description

The role of the Wales Deputy Lead of the Wales Future Leaders Network is to support the Wales Lead in the overall direction, management, and administration of all aspects of the Network’s operations, including its events, sessions, networking opportunities, workshop delivery, and programmes. 

The Deputy Lead is expected to be committed to the growth of the network in terms of its membership, outreach, and potential, and will volunteer alongside the Lead to ensure that the network remains on track to achieve these objectives. 

The Deputy Lead will support the creation of a management team to ensure a high performing and effective Network which stays true to the UK Future Leaders Network programme and vision, while also being tailored to the specific characteristics of the Wales Future Leaders Network. 

We are looking for an individual with

  • Strong and demonstrable alignment with Future Leaders Network’s core vision and mission.

  • Strong communication skills, able to work closely with other members of the leadership team in Wales and across the UK 

  • Comfortable supporting projects remotely, utilising resources in the most efficient way 

  • Ability to effectively prioritise tasks amidst conflicting deadlines and priorities.

  • An understanding of the importance of bilingualism in Wales and a commitment to expanding the use of Welsh with the Wales Future Leaders Network. Welsh language skills desirable, not essential.

What’s in it for you?

  • Join an ambitious team driven to discover and develop the next generation of leaders. 

  • Use and strengthen your existing skills and experiences. 

  • Connect with new people and build a stronger network of your own.

  • Learn more about leadership and opportunities that can support leadership development.

  • Make a difference today with the leaders of tomorrow.

Find out more about the Future Leaders Network here 

How to apply?

Fill in the form below by 23:59 on 5 July 2021

A Q & A session will be held with the current Lead and Deputy Lead to answer your questions on 25 June from 5.30 – 6.30pm. Email felicitie.walls@futureleaders.network to receive joining instructions.

You will need to be available for interview on either 12 or 13 July and we hope to invite the successful applicant to take up their post from the 17 July 2021.


Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol Cymru - Dirprwy Arweinydd (Gwirfoddol)  

Teitl: Dirprwy Arweinydd y Rhwydwaith 

Yn atebol i: Arweinydd Rhwydwaith Cymru

Lleoliad: Gartref

Ymrwymiad amser: Hyd at 3 awr yr wythnos / hyblyg

Swydd wirfoddol ddi-dâl yw hon.

Disgrifiad o'r Rôl

Rôl Dirprwy Arweinydd Cymru Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol Cymru yw cefnogi Arweinydd Cymru yn y gwaith cyffredinol o gyfeirio, rheoli a gweinyddu pob agwedd ar weithrediadau'r Rhwydwaith, gan gynnwys ei digwyddiadau, sesiynau, cyfleoedd rhwydweithio, cyflwyno gweithdai, a rhaglenni. 

Disgwylir i'r Dirprwy Arweinydd fod yn ymrwymedig i dwf y rhwydwaith o ran ei haelodaeth, ei hallgymorth a'i photensial, a bydd yn gwirfoddoli ochr yn ochr â'r Arweinydd i sicrhau bod y rhwydwaith ar y trywydd iawn i gyflawni'r amcanion hyn. 

Bydd y Dirprwy Arweinydd yn helpu i greu tîm rheoli i sicrhau Rhwydwaith effeithiol sy'n perfformio'n dda ac sy'n driw i raglen a gweledigaeth Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol y DU, tra hefyd yn cael ei theilwra i nodweddion penodol Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol Cymru. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd

  • Yn credu’n gryf yng ngweledigaeth a chenhadaeth graidd Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol.

  • Gyda sgiliau cyfathrebu cadarn, yn gallu gweithio'n agos gydag aelodau eraill o'r tîm arweinyddiaeth yng Nghymru a ledled y DU 

  • Yn teimlo’n gyfforddus yn cefnogi prosiectau o bell, gan ddefnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithlon 

  • Yn gallu blaenoriaethu tasgau yn effeithiol yng nghanol terfynau amser a blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.

  • Yn deall pwysigrwydd dwyieithrwydd yng Nghymru ac ymrwymiad i ehangu'r defnydd o'r Gymraeg gyda Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol Cymru. Sgiliau Cymraeg yn ddymunol, ddim yn hanfodol.

Beth sydd ynddo i chi?

  • Cyfle i ymuno â thîm uchelgeisiol sy'n awyddus i ddarganfod a datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr. 

  • Defnyddio a chryfhau eich sgiliau a'ch profiadau presennol. 

  • Cysylltu â phobl newydd ac adeiladu rhwydwaith gryfach eich hun.

  • Dysgu mwy am arweinyddiaeth a chyfleoedd sy’n gallu cefnogi datblygiad arweinyddiaeth.

  • Gwneud gwahaniaeth heddiw gydag arweinwyr yfory.

Cewch ragor o wybodaeth am Rwydwaith Arweinwyr y Dyfodol yma 

Sut i wneud cais

Cliciwch yma i wneud cais am y swydd Dirprwy Arweinydd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 5 Gorffennaf 2021.

Bydd sesiwn Holi ac Ateb yn cael ei chynnal gyda'r Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd presennol i ateb eich cwestiynau ar 25 Gorffennaf rhwng 5.30 a 6.30pm. E-bostiwch felicitie.walls@futureleaders.network i dderbyn cyfarwyddiadau ymuno.

Bydd angen i chi fod ar gael i’ch cyfweld naill ai ar yr12 neu’r 13 o Orffennaf ac rydym yn gobeithio gwahodd yr ymgeisydd llwyddiannus i ddechrau yn ei swydd o 17 Gorffennaf 2021.


Apply now! Applications close at 23:59 on 5 July.